
Digwyddiadau - Events

Bangor University Citizen Science Project
Llanrwst library, Llanrwst, LL26 0DF
Q: How can you help protect our rivers, learn new skills, and contribute to scientific research all at once?
A: By joining our citizen science project!
Want to know more? Come to our informal drop in session, anytime between 10am and 1pm
We will provide tea and coffee, introduce our river water quality project and show you how to get involved.

Gofod Glas “pop up” Llanrwst
Gofod Glas yn Llanrwst - 28 Stryd Dinbych, Llanrwst LL26 0AB
Mae Gofod Glas wedi bod yn archwilio perthynas bobol gyda dŵr croyw yn greadigol yn Nyffryn Conwy ers haf 2024.
Mis Mawrth, mae croeso i bawb gymeryd rhan:
- adeiladu cwragl Conwy
- holi cwestiwn i'r afon
- gwrando ar leisiau bobol wedi eu enwi ar ôl afonydd lleol
- dychmygu sut mae moleciwl dwr yn dysgu yn ystod ei fywyd
Dewch i mewn am sgwrs dros banad a rhanu eich perspectif, gofyn cwestiynnau a rhannu eich cysylltiadau gyda dŵr Dyffryn Conwy.
Oriau agor
Dydd Sadwrn 1 Mawrth - Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025
Ar agor Dyddiau Gwener a Sadwrn 11yb - 4:30yh
Dyddiau eraill ar agor drwy apwyntiad: iwan@dyffryndyfodol.com
Cysylltwch hefo ni ar y cyswllt uchod os oes ganddo chi anghenion mynediad ychwanegol. Fe wnawn ein gorau i wneud addasiadau rhesymol i gydfynd a'ch anghenion.
//
Gofod Glas in Llanrwst - 28 Denbigh St, Llanrwst LL26 0AB
Gofod Glas has been creatively exploring human relationships with freshwater in the Conwy Valley since summer 2024.
During March, we welcome everyone to take part:
- build a Conwy coracle
- ask the river a question
- listen to the voices of people named after local rivers
- imagine how a water molecule learns on its life’s journey.
Come inside, have a chat with us over a cuppa to share your perspective, ask questions and share your connections to the waters of the Conwy Valley.
Opening Times
Saturday 1 March - Saturday 29 March 2025
Open Fridays and Saturdays 11am - 4:30pm
Other days open by appointment: iwan@dyffryndyfodol.com
Get in touch and let us know if you have any additional access requirements using the contact above. We will do our best to make reasonable adjustments to fit your needs.

Gweithdy Cwrwgl: Coracle Building Workshop, Llanrwst
Building a Coracle!
We want to try building a small fleet of Conwy Coracles and are seeking people who would like to take part. Participation is FREE. The workshops will take place over 2 weekends in Llanrwst in March 2025.
Adeiladu Cwrwgl!
Rydym am geisio adeiladu fflyd fechan o Gwryglau Conwy ac yn chwilio am bobl a hoffai gymryd rhan. Mae cymryd rhan AM DDIM. Cynhelir y gweithdai dros 2 benwythnos yn Llanrwst ym mis Mawrth 2025.

Newid Cyflwr: Creu Cydweithfa Ieuenctid | Changing States: Imagining a Youth Collective
Newid Cyflwr: Creu Cydweithfa Ieuenctid
Changing States: Imagining a Youth Collective
Exploring young people's relationship with freshwater!
Archwilio perthnasoedd pobl ifanc â dŵr croyw!
Ymunwch â’r Cyfleuwr (Curadur David Cleary) ag Ymddiredolaeth Natur Gogledd Cymru a helpwch ni i greu Cydweithfa Ieuenctid ar gyfer Gofod Glas.
Join Conveyor (Curator David Cleary) and North Wales Wildlife Trust in Llanrwst on March 29th and help us imagine a Youth Collective for Gofod Glas.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 14-17 oed sy’n awyddus i gydweithio fel grŵp a rhannu eu safbwyntiau. Rydym yn croesawu cyfranogwyr o bob cefndir a diddordeb, p'un a ydych yn frwd dros yr amgylchedd a hinsawdd, os oes gennych ochr greadigol, neu'n teimlo cysylltiad personol â hanes ac afonydd yr ardal.
We’re looking for young people aged 14-17 who are eager to collaborate as a group and share their perspectives. We welcome participants from all backgrounds and interests, whether you're passionate about environmental and climate justice, have a creative side, or feel a personal connection to the area's history and rivers.
Mae rhagarchebu yn angenrheidiol a rhaid defnyddio'r linciau isod i archebu lle ar gyfer y digwyddiadau ar wahan. Rydym yn argymell i chi fynychu y ddau ddigwyddiad i gael y profiad gorau, ond os na fedrwch ddod i'r cyflwyniad ar-lein ar Fawrth yr 21ain, mi fedrwch dal ddod i'r prif ddigwyddiad ar y 29ain o Fawrth.
Booking is essential and you need using the links below to book onto these events separately. We strongly encourage you to attend both events to get the fullest experience, however if you can't make the online introduction on the 21 March, you can still join us for the main event on the 29 March.
Os oes gennych ddiddordeb, archebwch eich lle drwy Eventbrite a rhowch y dyddiadau a’r lleoliadau yn eich calendrau.
If you’re interested, book your space through Eventbrite and pop the dates and locations in your calendars.
Cyflwyno ‘Newid Cyflwr’, Cydweithfa Ieuenctid (Yn ddewisol)
Introducing Changing States Youth Collective (Optional)
dydd Gwener, 21 Mawrth | Friday 21 March, 18:00 - 19:00
(Ar-lein | Online)
Mae'r digwyddiad arlein yn gyfle i gyfarfod y tîm a phobl ifanc eraill cyn y prif ddgiwyddiad. Dewch i gael syniad gwell o be ydan ni'n ei gynllunio, ac i rannu eich meddyliau ynglŷn â dŵr croyw.
This online event is an opportunity to meet the team and other young people before the main event. Come and get a better idea of what we are planning and share your initial thoughts around the topic of freshwater.
Newid Cyflwr: Creu Cydweithfa Ieuenctid
Changing States: Imagining a Youth Collective
dydd Sadwrn 29 Mawrth | Saturday 29 March | 11:30 - 16:30
28 Denbigh Street, Llanrwst, LL26 0AB
Byddwch yn cymryd rhan mewn digwyddiad undydd yn cynnwys gweithdai cydweithredol, teithiau cerdded a thrafodaethau sy’n canolbwyntio ar ddŵr croyw. Trwy fyfyrio ar ein cysylltiadau ein hunain â dŵr, arsylwi manwl, a defnyddio ein dychymyg i feddwl fel moleciwl dŵr, byddwn yn archwilio ffyrdd o weithio sy'n cael eu harwain gan leisiau pobl ifanc.
You’ll take part in a one-day event featuring collaborative workshops, walks, and discussions centered on freshwater. Through reflection on our own connections to water, close observation, and using our imagination to think like a water molecule, we will explore ways to working that are led by the voices of young people.
Ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwn yn gofyn i chi ateb cyfres o gwestiynau ar ffurflen archebu er mwyn dweud mwy amdanoch eich hun. Dyma'r cwestiynau:
On the booking form for this event, you’ll be asked as series of questions to tell us more about yourself. These questions are:
Beth yw dy oedran
How old are you?O ble wyt ti?
Where are you from?Dywedwch fwy wrthym am eich diddordebau a pham yr hoffech fod yn rhan o'r grŵp hwn?
Tell us more about your interests and why you want to be part of this collective?A oes gennych unrhyw ofynion arbennig i hwyluso eich ymweliad?
Do you have any access requirements?Rhowch unrhyw ofynion o ran deiet.
Please provide any dietary requirements
Gwybodaeth bellach | Further information
Beth yw Gofod Glas? | What is Gofod Glas?
Mae Gofod Glas wedi bod yn archwilio perthnasoedd pobll â dŵr croyw yn greadigol ers haf 2024. Drwy gydol mis Mawrth 2025, mae’r tîm creadigol yn cynnal siop wag yng nghanol Llanrwst, gan wahodd y cyhoedd i ymuno, rhannu eu safbwyntiau a’u perthnasoedd â dŵr croyw trwy wahanol weithgareddau creadigol.
Gofod Glas has been creatively exploring human relationships with freshwater since summer 2024. Throughout March 2025, the creative team are taking over an empty shop in Llanrwst, inviting the public to join in, share their perspectives and relationships to freshwater through different creative activities.
Ddarganfod mwy am Gofod Glas I | Find out more about Gofod Glas
What is Conveyor? | Beth yw Cludydd?
Mae Cludydd yn fenter gelfyddydol grwydrol wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru. Mae'n cael ei arwain gan David Cleary (ef/ef), curadur llawrydd sy'n canolbwyntio ar gysylltu’r cyhoedd i gelfyddyd a diwylliant, ac yn gwneud hynnu drwy weithio ar y cyd.
Conveyor is a nomadic arts initiative and curatorial platform based in North Wales.It is being led by David Cleary (he/him), a freelance curator focused on improving public access to art and culture through collective ways of working.

Gwisg yr Afon / The River Dress: Caffi Doti, Trefriw
Bydd Gwisg yr Afon yn cael ei harddangos yng Nghaffi Doti yn Nhrefriw tan 22 Chwefror 2025, a gwahoddir ymwelwyr â’r caffi i ofyn cwestiwn i’r afon. Rwy'n gobeithio trefnu sgwrisau anffurfiol (gyda cacen!) yno, felly cysylltwch os hoffech ddod â'ch gwybodaeth a gofyn eich cwestiynau eich hun am yr afon.
The River Dress will be displayed at Caffi Doti in Trefriw until 22 February 2025, with café visitors invited to ask the river a question. I am hoping to arrange some informal coffee and cake chats there, so get in touch if you would like to bring your knowledge and ask your own questions of the river.

“Protecting the rivers of North Wales and their fisheries”
Digwyddiad gan Cymdeithas Treftadaeth Dyffryn Conwy // Event by Conwy Valley Civic Society

Olion diwydiant yn Nyffryn Conwy: Echoes of industry in the Conwy Valley
Meet at: Gwydyr Forest, Gower Rd, Trefriw, LL27 0RZ
w3w ///lined.cornfield.slurs
Archwiliwch hanes mwyngloddio plwm yn Nyffryn Conwy ac effaith hyn ar dir a dŵr.
Dewch draw am dro yn yr hydref a dysgu am effeithiau modern hanes mwyngloddio coedwig Gwydyr.
Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd i drafod y pwnc mewn cyfarfod agored a chyfeillgar.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Ni chaniateir cŵn
Mae rhannau o’r tir yn arw a byddwch yn cerdded ar lethrau serth.
Gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau cerdded da. Dewch â phicnic os ydych chi'n awyddus i barhau â'r sgwrs wedyn.
Explore the legacy of lead mining in the Conwy Valley and it's impact on land and water.
Come along for an autumn walk and discover the modern day impacts of Gwydyr forest's mining history.
We are inviting both professionals and the public to discuss the topic in an open and friendly gathering.
The event organiser speaks fluent Welsh, please feel free to use Welsh or English during this event.
No dogs permitted
Some rough ground and steep slopes will be encountered.
Please dress appropriately for the weather and wear good walking shoes. Bring a picnic if you want to continue the conversation afterwards.

Archwilio cysylltiadau dŵr croyw: Exploring freshwater connections
Pwynt cyfarfod/Meeting at:
Conwy Falls Cafe, Ffordd Pentrefoelas, Betws-y-Coed, LL24 0PN
View on What3Words: flush.provide.begin
Taith gerdded o amgylch Dyffryn Conwy, gan fwynhau Rhaeadr y Graig Lwyd, Rhaeadr Machno a Llyn yr Afanc, a stopio am bicnic ar y ffordd (bwyd heb ei ddarparu)
Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd i ystyried dŵr croyw, fel rhan o gyfarfod agored a chyfeillgar.
Cofiwch neilltuo digon amser i roi rhywfaint o fusnes i’r caffi ar y diwrnod.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith
Ni chaniateir cŵn
Mae'r llwybrau'n anwastad ac yn llithrig. Mae mannau parcio yn gyfyngedig, dylech rannu car os yw hynny'n bosib.
Pa mor anodd: Canolig
Hyd y daith: tua 3 awr
Dewch ag esgidiau addas i gerdded a gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd.
Os y dymunwch dewch a phicnic.
A walk around the Conwy Gorge, taking in Conwy Falls, Machno Falls and Beaver Pool and stopping for a picnic en route (food not provided).
We are inviting both professionals and public to explore the theme of freshwater in an open and friendly gathering.
Please make time on your visit to create some business for the wonderful café as thanks for supporting the event.
The event organiser speaks fluent Welsh, please feel free to use Welsh or English during this event.
No dogs permitted
Paths are uneven and slippery. Parking is limited, please car share where possible.
Difficulty: Medium
Length of walk : approx. 3 hours
Please bring suitable footwear for hiking and dress for the weather.
Please feel free to bring a picnic.
Cysylltwch â ni - Contact us
Iwan Edwards
Rhif Cyswllt: 07584311583
Cysylltu e-bost: Iwan.Edwards@northwaleswildlifetrust.org.uk

Dychweliad yr Afanc: Peiriannydd Ecosystem Byd Natur. Return of the Beaver. Nature's Ecosystem Engineer
Neuadd Bentref Trefriw, LL27 0JH Trefriw village Hall
Sgwrs gyda lluniau am yr Afanc Ewrasiaidd, sut gall helpu bywyd gwyllt a phobl, a beth rydyn ni’n ei wneud i sicrhau ei fod yn dychwelyd yn llwyddiannus.
Gydag Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirweddau Byw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Bydd y cyflwyniad yn Saesneg.
//
An illustrated talk about the Eurasian Beaver, how it can help wildlife and people, and what we're doing to ensure its successful return.
With North Wales Wildlife Trust's Head of Living Landscapes Adrian Lloyd Jones.
The presentation will be iin English.

Noson ger yr RIVER. An evening by the RIVER
Neuadd Bentref Trefriw Village Hall
AM DDIM ond rhaid cofestru
Ymunwch â ni ar siwrnai sinematig a cherddorol sy'n archwilio'r berthynas ryfeddol rhwng bodau dynol ac afonydd mewn dangosiad dan do o 'RIVER'.
Dewch draw i neuadd bentref Trefriw am noson o ffilm wrth i ni archwilio’r cysylltiadau dŵr croyw yn nalgylch afon Conwy. Wedi ysgrifennu gan Robert Macfarlane ac yn cynnwys cerddoriaeth gan Jonny Greenwood a Radiohead gyda thrafodaeth ac adroddiad gan Willem Dafoe.
"Mae bodau dynol wedi caru afonydd ers amser maith. Ond gan ein bod ni wedi dysgu sut i ffrwyno eu gallu, ydyn ni hefyd wedi anghofio eu parchu?"
Trwy gydol hanes, mae afonydd wedi siapio ein tirweddau a’n teithiau; wedi llifo trwy ein diwylliannau a’n breuddwydion. Mae “River” yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrne trwy ofod ac amser; yn pontio chwe cyfandir, ac yn tynnu ar sinematograffi hynod gyfoes, yn cynnwys ffilmio lloerenol, dangosir y ffilm afonydd ar raddfeydd a phersbectif sydd erioed wedi weld o’r blaen. Yn cyfuno delweddau, miwsig, sgript barddonol fydd yr oll yn creu ffilm sydd yn bwerus a hudolus, yn anrhydeddu gwylltineb yr afonydd ond hefyd yn cydnabod eu gwendidau.
Gofod Glas Conwy sy’n cyflwyno’r digwyddiad yma. Mae wedi cael cymhorthdal drwy gyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn.
Agenda:
19:00 - Drysau'n agor a chyflwyniad
19:15-20:30 - Sgrinio
20:30-21:00 - Lluniaeth
Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg o dymunwch.
//
FREE but reserve your place
Join us for a cinematic and musical odyssey that explores the remarkable relationship between humans and rivers in an indoor screening of 'RIVER'.
Come along to Trefriw village hall for an evening of film as we explore the freshwater connections in the Conwy river catchment area. Written by Robert Macfarlane featuring music by Jonny Greenwood and Radiohead with narration by Willem Dafoe.
"Humans have long loved rivers. But as we have learned to harness their power, have we also forgotten to revere them?"
Throughout history, rivers have shaped our landscapes and our journeys; flowed through our cultures and dreams. RIVER takes its audience on a journey through space and time; spanning six continents, and drawing on extraordinary contemporary cinematography, including satellite filming, the film shows rivers on scales and from perspectives never seen before. Its union of image, music and sparse, poetic script will create a film that is both dream-like and powerful, honouring the wildness of rivers but also recognises their vulnerability.
This event is brought to you by Gofod Glas Conwy. Subsidised with funding from Esmée Fairbairn Foundation.
Agenda:
19:00 - Doors open and introduction
19:15-20:30 - Screening
20:30-21:00 - Refreshments
The event organiser speaks conversational Welsh, please feel free to use Welsh or English during this event.

Gwyl Garrog - Dolgarrog
Fydd Gofod Glas yn Gwyl Garrog, Dolgarrog
Gofod Glas will be at Garrog Festival, Dolgarrog

Sioe Amaethyddol Ysbyty Ifan
Fydd Gofod Glas yn Sioe Amaethyddol Ysbyty Ifan efo Dal dy Ddwr
Gofod Glas will be at Ysbyty Ifan Agricultural Show! with Hold your Water

Sioe Eglwysbach Show
Fydd Gofod Glas yn Sioe Eglwysbach efo Dal dy Ddwr
Gofod Glas will be at Eglwysbach show with Hold your Water

Sioe Wledig Llanrwst Rural Show
Fydd Gofod Glas yn Sioe Wledig Llanrwst efo Dal dy Ddwr
Gofod Glas will be at Llanrwst Rural Show with Hold your Water